PHOTO-2022-03-29-14-56-01 (2).jpg

Mae Cymru yn elwa o ffocws polisi cenedlaethol cryf ar iechyd a lles, gydag adnoddau cysylltiedig yn cael eu neilltuo i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol y genedl, gan gynnwys gwella lles meddyliol mewn lleoliadau addysgol. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2m i gefnogi iechyd meddwl mewn addysg bellach (AB), a fydd yn codi i oddeutu £5m yn 2023. Mae BlwBo wedi ymgymryd â thri phrosiect ymchwil ansoddol cysylltiedig gyda cholegau o Gymru ar ran ColegauCymru, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth Lles Actif. Mae'r Prosiect Ymchwil Lles Actif hwn wedi'i gomisiynu gan ColegauCymru a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u rhaglen i gefnogi mentrau iechyd meddwl a lles mewn colegau AB.

Ers 2021, mae'r gwaith ymchwil wedi ymgysylltu â dros 300 o ddysgwyr, eu tiwtoriaid a'u haelodau staff sy'n arwain ac yn cefnogi darpariaeth lles actif mewn sefydliadau addysg bellach, yn ogystal â rhai sefydliadau partner cenedlaethol. Ar gyfer yr astudiaeth ddiweddaraf hon, mae dysgwyr o dros 17 o wahanol gyrsiau wedi cyfrannu: dysgwyr llawn amser a rhan amser, cyfranogwyr lles actif ac unigolion anweithredol.

Nod y gwaith ymchwil oedd cael mewnwelediad pellach i'r cysylltiad rhwng gweithgaredd a lles dysgwyr a staff AB, yn benodol sut y gall lles actif effeithio'n gadarnhaol ar iechyd meddwl. Mae hefyd wedi archwilio'r defnydd o ddulliau ansoddol o fesur canlyniadau, y potensial ar gyfer gwaith ymchwil a arweinir gan gymheiriaid yn y dyfodol gan ddefnyddio'r model hwn, a nodi cyfleoedd i wella dealltwriaeth dysgwyr a staff o'r cysylltiad rhwng gweithgaredd, lles a gwell iechyd meddwl.

Mae cryn dystiolaeth bod y pandemig wedi cynyddu'r angen am gymorth iechyd meddwl, gan effeithio ar fynediad at gyfleoedd lles actif ar yr un pryd, a all fod yn rhan allweddol o ddull ataliol. Am ddwy flynedd, nid yw dysgwyr wedi cael y math o fynediad na phrofiad y gallent fod wedi disgwyl ei fwynhau yn bersonol yn y coleg. Mae risg y bydd dulliau dysgu cyfunol mwy newydd a gafodd eu cyflwyno i reoli'r pandemig yn cael effaith negyddol tymor hir ar iechyd a lles dysgwyr a staff, ac mae gallu pobl i fod yn rhan o les actif wedi dod yn fwy cyfyngedig.

Darllen Adroddiad

Gwybodaeth Bellach
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.