Mae Chwaraeon Colegau Cymru’n cystadlu fel tîm rhanbarthol bob blwyddyn ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol AoCSport.

Nat champs pic.JPG

Mae tîm Colegau Cymru ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys enillwyr y cystadlaethau rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn honno. Y gystadleuaeth hon yw uchafbwynt chwaraeon y colegau i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ac mae’n cynnwys dros 3000 o fyfyrwyr o bob cwr o’r DU.

Mae gan golegau a myfyrwyr o Gymru hanes o wneud yn well na’r disgwyl yn y gystadleuaeth gan iddynt ennill sawl teitl cenedlaethol yn y broses. Yn 2014, enillodd Rygbi merched, Tennis a Thrampolinio fedalau aur gyda pherfformiadau eithriadol eraill mewn Pêl-droed merched, Sboncen, Badminton, Tennis Bwrdd a Phêl-foli.

I gael rhagor o wybodaeth am y Pencampwriaethau Cenedlaethol, dilynwch y ddolen i wefan AoC Sport.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau ColegauCymru Chwaraeon.